|
|
Egwyddorion
y Prosiect
Gweithio mewn Partneriaeth
Mae’r Prosiect ar y cyd hwn yn manteisio ar sgiliau a phrofiad cyfatebol yn
Nyffryn Slaney De-ddwyrain Iwerddon ac yn Sir Benfro, Gorllewin Cymru. Gan
ddysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu sgiliau a gwybodaeth, byddwn yn ennill
buddion datblygu cymuned a fyddai fel arall yn amhosibl eu cyrraedd a’u
fforddio. Ni ellir gwahanu’r targedau - amgylcheddol, cymdeithasol ac
economaidd - rydym wedi eu gosod. Wrth gyrraedd targedau gwella’r
amgylchedd a chadw’r buddion hynny drwy ddiwylliant cymuned o stiwardiaeth dda,
bydd modd cadw’r cyfleoedd hamdden ac addysgol gwell rydym yn eu ceisio. Yn yr
un modd, set integredig o ganlyniadau i’w cyrraedd a’u cynnal gan y gymuned
yw’r buddion economaidd a’r cyfraniad at well iechyd a lles. Mynegir ein
nodau ac amcanion felly nid yn nhermau ‘yr hyn y byddwn yn ei wneud’ ond yn
nhermau ‘yr hyn y byddwn yn ei gyrraedd’.
Manteisio ar y Tir
Cyffredin
Byddwn yn sefydlu yn y ddwy Ardal Ymddiriedolaethau Afonydd hunangynhaliol gyda
chymorth gwirfoddolwyr yn bennaf ac yn tynnu ar brofiad ac adnoddau dysgu ar y
cyd sefydliad Cymdeithas Ymddiriedolaethau Afonydd. Bydd yr
Ymddiriedolaethau’n darparu gwerth ychwanegol i gymunedau yn y ddwy Ardal
traws ffin drwy fonitro amgylcheddol ac arbenigedd rheoli, hyfforddiant a
datblygiad gwirfoddolwyr, adnoddau addysgol, ac arweiniad am ddefnydd tir arfer
gorau sydd wedi ei brofi ac yn effeithiol wrth adfer a gwarchod amgylcheddau
afon a stociau pysgod.
Cydnabod
Unigrywiaeth
Mae’r amcanion amgylcheddol, sydd â chynaladwyedd a pherchnogaeth cymuned fel
gwerthoedd craidd, yn cydnabod unigrywiaeth amgylcheddau naturiol y ddwy Ardal.
Byddwn yn meithrin ymrwymiad cymuned hollgynhwysol i gadw, gwarchod a gwella
amgylcheddau afonydd yng Ngorllewin Cymru a De-ddwyrain Iwerddon fel y gall
cymunedau yn y ddwy Ardal weithio gyda’i gilydd i gynyddu eu gallu, y naill
a’r llall yn helpu ei gilydd i gystadlu mewn marchnadoedd twristiaeth
cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddefnyddio’r potensial ar gyfer datblygu
twristiaeth ‘werdd’ dwy ganolfan a arweinir gan y gymuned.
Nodau
ac Amcanion y Prosiect ar y Cyd
Nodau’r
Prosiect Ar y Cyd hwn yw:
-
Datblygu gallu cymunedau yn Ne-ddwyrain Iwerddon a Gorllewin Cymru i
gynnal cynefinoedd afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd ac felly gwarchod eu
cyfraniad at well iechyd, ffyniant a hamdden awyr agored, yn ogystal ag
addysg amgylcheddol a’r gyflogaeth gefn gwlad sy’n dibynnu ar yr asedau
hyn.
-
Ehangu a hyrwyddo cyfleoedd i fwynhau hamdden awyr agored iach ac addysg
amgylcheddol y gall afonydd eu rhoi, a sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bob
gŵr a gwraig, gan gynnwys grwpiau lleiafrifol, yr ifanc, yr anabl a’r
rhai dan anfantais.
-
Sefydlu gallu cymuned i hyrwyddo, marchnata a datblygu’n barhaus systemau
newydd seiliedig ar TGCh, sy’n cefnogi twristiaeth bysgota gynaliadwy a mathau
eraill o dwristiaeth ‘werdd’ er mwyn cynyddu cyflogaeth cefn gwlad drwy
dymor twristiaeth estynedig.
-
Sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn ansawdd dŵr a chynefinoedd glannau
afon drwy raglen a arweinir gan y gymuned o arferion amaethyddol gwell sy’n
chwilio am fuddsoddiad amgylcheddol ac amaethyddol er budd yr economi cefn gwlad
ehangach.
-
Hyrwyddo mesurau sy’n lleihau ecsbloetio stociau pysgod, gan alluogi
pysgodfeydd i ffynnu a sicrhau’r profiad pysgota byd enwog sydd ei angen ar
gyfer cynaladwyedd economaidd, ac felly’n sail i’r potensial cyflogaeth
cynyddol o ganlyniad i adfer a gwarchod cynefinoedd.
-
Sefydlu monitro cyraeddiadau datblygiad amgylcheddol, cymdeithasol ac
economaidd fel yr hyn y gall cymuned ei wneud, a chefnogir hyn gan arbenigedd
Ymddiriedolaeth Afonydd, fel y gellir cynnal
a gwella’r buddion hyn a buddsoddiadau prosiect cysylltiedig eraill drwy
ymrwymiad cymuned at welliant parhaus.
Amcanion
1.
Datblygu Gallu Cymuned drwy Rwydwaith Ymddiriedolaeth yr Afonydd
Datblygu a sefydlu, drwy Ymddiriedolaethau Afonydd hunangynhaliol yn y ddwy
Ardal traws ffin, rwydweithiau er mwyn cyfnewid gwybodaeth, arbenigedd a
phrofiad rhwng y partneriaid yn Iwerddon a’r partneriaid yng Ngorllewin Cymru,
fel bod buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mwy’n deillio o
fuddsoddiadau mewn cynefinoedd afonydd a’r cyfleoedd hamdden ac addysgol y
maent yn eu rhoi.
2. Ehangu Ymrwymiad Cymuned a Mynediad i Amgylchedd yr Afon
Darparu cyfleoedd addysg, hyfforddi a datblygu a fydd yn meithrin yn y ddwy
Ardal traws ffin ddiddordeb hollgynhwysol mewn a phryder am warchod afonydd a
nentydd; a darparu mannau mynediad deongledig sy’n addas ar gyfer pawb yn y
gymuned, gan gynnwys grwpiau ac unigolion anodd eu cyrraedd a than anfantais.
3. Gwelliannau
Amgylcheddol drwy Arfer Amaethyddol Gorau
Hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy cyrsiau dŵr drwy fabwysiadu technegau ffermio
arfer gorau sy’n seiliedig ar hyfforddiant ac arweiniad a ddatblygwyd gan
Ymddiriedolaeth Afonydd De-orllewin Lloegr ac Asiantaeth yr Amgylchedd, fel y
bo’r gymuned ehangach yn y ddwy Ardal traws ffin, yn ogystal â ffermwyr a
gweithwyr fferm, yn elwa’n gymdeithasol ac yn economaidd oherwydd gwelliannau
mewn ansawdd afon
4. Cadwraeth a Gwella Stociau Pysgod
Sicrhau cefnogaeth gan y gymuned ar gyfer gweithgareddau i leihau ecsbloetio
a phwysedd eraill ar stociau pysgod, yn arbennig y rhai hynny sy’n agos at neu
o dan eu terfyn cadwraeth isaf, ac felly’n gwneud y mwyaf o’r manteision o
waith gwella cynefinoedd ac o wneud mynediad yn haws i fannau silio a meithrin
wrth gael gwared o neu osgoi rhwystrau.
5.
Datblygu a Marchnata Cyfleoedd Twristiaeth Pysgota
Defnyddio systemau seiliedig ar TGCh i hyrwyddo a marchnata gwyliau pysgota a
gweithgareddau awyr agored eraill sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol yn y ddwy
Ardal traws ffin. Rhaid sicrhau mynediad rhwydd i bob sector o’r gymuned leol
ac i ymwelwyr i Orllewin Cymru a De-ddwyrain Iwerddon.
6.
Adeiladu Gallu ac Ymrwymiad Cymunedau i Warchod eu Hafonydd
Trwy Ymddiriedolaethau Afonydd addysgu a dylanwadu ar weithrediadau grwpiau
cymuned yn y ddwy Ardal traws ffin fel eu bod yn gwerthfawrogi ac yn gwarchod eu
hafonydd lleol oherwydd eu gwerth amgylcheddol a chadwraethol yn ogystal
â’r buddion hamdden ac economaidd y maent yn eu rhoi; a hyfforddi
gwirfoddolwyr o’u cymunedau i fonitro cyflwr afonydd fel y gallant adnabod
arwyddion cynnar o fygythiadau i’r amgylchedd naturiol pan fydd gweithredu i
osgoi neu leihau difrod yn fwyaf cost effeithiol.
|