|
Partneriaid Prosiect yng
Nghymru
Mae Prifysgol Cymru
Aberystwyth (PCA) yn sefydliad addysgu, a nod y Ganolfan
ar gyfer Arbenigedd Ymchwil Iechyd ac Amgylchedd (CHERE) sy’n adran o PCA
yw cyfrannu at Ddatblygiad Cynaliadwy drwy ddarparu gwasanaethau a chyngor
arbenigol i fusnesau, yn arbennig Mentrau Maint Bach a Chanolig (SMEs) yn Ardal
Amcan 1 Cymru. Prif bartneriaid PCA
yn y prosiect hwn:
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys
ac mae wedi sicrhau cefnogaeth nifer fawr o sefydliadau eraill sef:
Partneriaid Prosiect yn IwerddonMae Ymddiriedolaeth Afon Slaney (Cymdeithas Ddatblygu Pysgotwyr Slaney Cyf (SADAL) yn flaenorol) yn cynrychioli clybiau pysgota, pysgotwyr a pherchnogion pysgodfeydd ar y Slaney. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo y bydd yn gweithio gyda phawb sydd â diddordeb mewn gwarchod a gwella ecoleg, pysgodfeydd a bywyd gwyllt glannau Dyffryn Slaney. Partneriaid yr Ymddiriedolaeth yn y Prosiect Ar y Cyd hwn: Bwrdd Canolog y Pysgodfeydd - corff a noddir gan y Llywodraeth sy'n cynghori'r Gweinidog Môr ac Adnoddau Naturiol am bolisi sy'n ymwneud â phopeth am bysgota ar y môr ac yn y berfeddwlad. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau cefnogi arbenigol i'r byrddau pysgodfeydd rhanbarthol. Bwrdd Pysgodfeydd Rhanbarth y Dwyrain - corff statudol sy'n gyfrifol am ansawdd amgylcheddol d?r a datblygu a gwarchod y pysgodfeydd yn ei ranbarth sy'n cynnwys Dwyrain Iwerddon. Awdurdod Twristiaeth Rhanbarth y De-Ddwyrain - asiantaeth a gefnogir gan y wladwriaeth gyda chyfrifoldeb am ddatblygu twristiaeth yn Ne-ddwyrain Iwerddon. Coleg y Drindod, Dulyn - y brifysgol hynaf yn Iwerddon sydd ag enw da rhagorol yn rhyngwladol. |
||||||||||||
|
|||||||||||||