|
Gweithredu’r Prosiect yn
Iwerddon
Isod, rydym yn disgrifio’r hyn
y byddwn yn ei wneud yn Ne-ddwyrain Iwerddon i gwrdd â phob un o chwe amcan y
Prosiect Ar y Cyd ac i gyflawni eu Cerrig Milltir canlyniad allweddol. Gwneir
llawer o’r gweithrediadau gyda chydweithrediad ein partneriaid yng Nghymru, yn
rhannol oherwydd y byddwn yn tynnu ar eu harbenigedd mewn meysydd lle mae eu
profiad hwy’n fwy na’n un ni ein hunain, ac yn rhannol hefyd er mwyn ennill
buddion economi graddfa neu, mewn sawl enghraifft, lle mae angen i ni wneud
rhywbeth unwaith yn unig er mwyn ennill buddion ar gyfer y ddwy Ardal traws ffin. Ar ddiwedd yr adran hon, rydym
yn disgrifio ein cynlluniau ar gyfer rheoli’r prosiect ac yn Adran 8 rydym yn
nodi’r adnoddau cyllid a gweithlu sydd eu hangen er mwyn gweithredu. 1. Datblygu Gallu
Cymuned drwy Rwydwaith Ymddiriedolaeth Afonydd. a) Ddatblygu Ymddiriedolaeth
Afon Slaney sy’n seiliedig ar brofiad y Partneriaid yng Nghymru a Chymdeithas
Ymddiriedolaethau Afonydd yn y maes hwn. Nod Ymddiriedolaeth Afon Slaney yw codi
arian o’r sector preifat a ffynonellau eraill er mwyn darparu cyflogaeth
barhaus ar gyfer y Swyddog Prosiect wedi i’r Prosiect Ar y Cyd ddod i ben
a’n galluogi i barhau ein cynlluniau datblygu tymor hir. Bydd y gwaith o gadw,
gwarchod a hyrwyddo amgylchedd Dyffryn Slaney’n parhau er budd pawb yn y
Dyffryn yn ogystal ag ymwelwyr. b) Addasu a hyrwyddo deunydd
hyfforddi ac addysgol gan y CFB, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Afonydd a
Chymdeithas Bysgota Llandysul a sicrhau ei fod ar gael ar gyfer grwpiau cymuned,
ysgolion a cholegau yn Nyffryn Slaney gyda chefnogaeth gan raglen Hyfforddi
Athrawon y CFB. c) Trefnu gweithdy datblygu
Ymddiriedolaeth Afonydd yn Nyffryn Slaney, lle gall arbenigwyr yn y maes hwn
rannu arfer gorau a datblygu dulliau i ddod i’r afael â phroblemau/cyfleoedd/cyllid
newydd. 2. Ehangu Ymrwymiad
Cymuned a Mynediad i Amgylchedd yr Afon ch) Hyrwyddo defnydd Ffordd
Slaney – rhwydwaith o ffyrdd cyhoeddus bach sy’n rhoi mynediad i Ddyffryn
Slaney – wrth gyhoeddi’r manteision drwy wefan SADAL, yn y cyfryngau a
mannau mynediad i ymwelwyr. Ni ddefnyddir fawr ar Ffordd Slaney gan dwristiaid
ac ymwelwyr oherwydd na cheir digon o gyhoeddusrwydd. Bydd y cyhoeddusrwydd drwy
lyfrynnau argraffedig a/neu’r Rhyngrwyd a chyfryngau electronig eraill yn
canolbwyntio ar fywyd cymunedol yn y Dyffryn, ei fywyd gwyllt gan gynnwys pysgod
ac adnoddau llety a thai bwyta; bydd hefyd yn nodi mannau mynediad i’r afon,
safleoedd picnic, llwybrau natur yn y coed a theithiau cerdded ar y bryniau yn
Nyffryn Slaney. Mae’r amcangyfrifon ariannol yn cynnwys swm o €10,000 i
ddatblygu, fel prosiect peilot, blatfform gwylio bywyd gwyllt gydag adnoddau ar
gyfer yr anabl yn y Dyffryn yn 2005/06. d) Meithrin cysylltiadau
gweithredol gyda grwpiau sy’n cefnogi pobl ifanc dan anfantais a gyda grwpiau
cymuned eraill, ysgolion, colegau, gan ddarparu deunyddiau dysgu amgylcheddol
wrth addasu adnoddau a gyfrannwyd gan bartneriaid SADAL; trefnu a chyhoeddi
cyfleoedd ar gyfer ymweliadau maes sy’n hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad drwy
brofiad cadarnhaol, ymarferol a gynlluniwyd i ddod â goddrychau’n fyw. dd) Annog a hyfforddi unigolion
a grwpiau i ymwneud â’r broses o wella afon a chynefin, yn arbennig lle y
bydd hyn yn eu hannog i ofalu am rannau o’r afon cysylltiedig â’u hardal eu
hunain. Defnyddir deunyddiau addysgol i’w hyfforddi i fonitro cyflwr yr
afonydd am arwyddion cynnar o lygredd ac i’w cynghori beth y dylid ei wneud
pan fydd llygru’n digwydd. Bydd gan Swyddog Amgylchedd yr ERFB rôl
arwyddocaol i’w chwarae yn y broses hyfforddi yma. 3. Gwelliannau
Amgylcheddol drwy Arfer Amaethyddol Gorau e) Ddefnyddio hyfforddiant ac
arweiniad arfer gorau Ymddiriedolaeth Afonydd De-orllewin Lloegr, a gweithio
gyda swyddogion yr ERFB a chynrychiolwyr ffermwyr ar yr ERFB, i helpu ffermwyr
yn Nyffryn Slaney i fabwysiadu gwarchodaeth ‘arfer gorau’ tir glannau afon.
Gwneir gwaith adfer gan weithwyr y CFB/ERFB (gweler rhagdybiaethau yn s. 8.3
isod). Byddwn yn gweithio gyda Phrosiect Interreg IIIA Gwaith Agri-Net -
partneriaeth Antur Teifi a Chymdeithas Wyddelig y Ffermwyr. 4. Cadwraeth a
Gwella Stociau Pysgod ff) Hyrwyddo dal a rhyddhau
eogiaid, brithyll a brithyll môr ledled Dyffryn Slaney g) Sefydlu rhaglen gwarchod
cynefin glannau afon fel bod y nentydd silio’n cynhyrchu mwy o eogiaid ifanc
ac yn darparu gwell cynefinoedd ar gyfer pryfed, pysgod, amffibiaid a mamaliaid
glannau afon yn ogystal â phrydferthwch gweld blodau gwahanol sy’n gynhenid i
Ddyffryn Slaney. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gwaith i drwsio erydiad glannau
difrifol ym mhrif sianel yr afon a bydd prosiect peilot yn cael gwared â
phlanhigion estron fel Ffromlys Chwarennog lle maent yn disodli tyfiant naturiol
ac yn achosi erydiad y glannau. Mae’r CFB wedi cytuno y bydd arbenigwr adfer
afon ar gael a botanegydd, ac mae ERFB wedi cytuno y bydd tîm o weithwyr ar
gael i wneud y gwaith. Gweler s. 8.3 isod i gael cefndir pellach. Bydd y Swyddog
Prosiect yn ymwneud â’r gwaith hwn a bydd yn trefnu gwirfoddolwyr o gymunedau
lleol i helpu gyda’r gwaith a derbyn hyfforddiant ffurfiol gan arbenigwyr y
CFB/ERFB. ng) Sicrhau bod penderfyniadau
am flaenoriaethau ar gyfer cadwraeth yn seiliedig ar fesurau iawn o
effeithiolrwydd. CARREG FILLTIR: Adfer i lawn effeithiolrwydd y cownter pysgod
yng Nghored Clohamon i alluogi cyfrifiad sy’n dangos nifer stoc yr eogiaid yn
yr afon erbyn Mawrth 31 2005 5. Datblygu a
Marchnata Cyfleoedd Twristiaeth Pysgota h) Bydd gwefan SADAL yn y
Saesneg a bydd opsiwn i gael y tudalennau mwyaf pwysig yn y Gaeleg. Bydd tudalen
gartref, sy’n disgrifio Partneriaeth Ymddiriedolaeth yr Afonydd Celtaidd, wedi
ei chysylltu â’r wefan Gymraeg. Bydd y wefan hefyd yn cysylltu â
gweithgareddau cyfatebol yn Ne-ddwyrain Iwerddon a Gorllewin Cymru y tu allan i
ardal gyfagos y Prosiect ar y Cyd fel golff, pysgota môr, gwyliau marchogaeth,
cerdded ar y bryniau ayyb. Bydd y Swyddog Prosiect yn gweithio’n agos gyda’n
partner, SERTA, i ddatblygu’r rhaglen hon. Bydd y wefan yn dangos
deunyddiau gyda lluniau o ferched a’r anabl yn cymryd rhan mewn pysgota.
Cynhwysir pob perchennog pysgodfa a chlybiau pysgota ar y Slaney sydd wedi
dangos diddordeb mewn elwa o’r fenter marchnata hon. i) Darparu cyrsiau hyfforddi ar
gyfer perchnogion pysgodfeydd/clybiau ac unigolion yn seiliedig ar brofiad y CFB
mewn cynnal cyrsiau tebyg a gyda help gan CERT (Asiantaeth Hyfforddi Twristiaeth
y Wladwriaeth) sydd wedi datblygu Rhaglen Arweiniad Môr a Chefn Gwlad ar gyfer
Pysgota. l) Trefnu ‘Diwrnodau Cadwraeth
a Dysgu i Bysgota’ yn Nyffryn Slaney ar gyfer pobl leol a thwristiaid gyda’r
nod o gyflwyno, yn arbennig, yr ifanc, merched y rhai hynny ag anabledd a
grwpiau ac unigolion eraill dan anfantais i amgylchedd y dŵr.Bydd y
digwyddiadau’n rhoi cyfarwyddyd ymarferol am bob agwedd o bysgota gan gynnwys
cadwraeth stociau. Bydd y digwyddiadau hyn yn elwa o brofiad y CFB (bydd eu
Hyfforddwr Pysgota ar gael ar gyfer y rhan hon o’r Prosiect) a phrofiad yr
ERFB yn y maes hwn yn ogystal ag un ein partneriaid yng Ngorllewin Cymru, lle
mae Cymdeithas Bysgota Llandysul wedi bod yn cynnal diwrnodau Cadwraethwyr Ifanc
ers 1997. 6. Adeiladu Gallu ac Ymrwymiad
Cymunedau i Warchod eu Hafonydd m) Bydd Swyddog y Prosiect a
gwirfoddolwyr cymuned yn gweithio gyda Swyddog Amgylcheddol yr ERFB. Bydd y
Swyddog Amgylcheddol yn treulio amser ychwanegol yn Nyffryn Slaney. Treulir rhan
o’r amser ychwanegol hwn yn hyfforddi a rhan yn cynghori SADAL ar oblygiadau
deddfwriaeth yr UE sydd ar fin cael eu gweithredu fel Cyfarwyddyd Fframwaith Dŵr,
fydd â rôl bwysig i alluogi cymunedau Dyffryn Slaney i fonitro a gwella
ansawdd dŵr. Bydd e neu hi hefyd yn sefydlu ac yn gweithredu rhaglen
monitro sy’n canolbwyntio ar asideiddio a thynnu dŵr yn ardal y Slaney
uchaf, tomenni gwastraff anghyfreithlon yn ardal blaenddyfroedd Swydd Wicklow ac
ewtroffeiddio yn yr afon o gwmpas ac islaw Enniscorthy. Cefnogir y rhaglen hon
yn ogystal gan Adran Sŵoleg Coleg y Drindod Dulyn sydd ag arbenigedd mewn
astudio ansawdd dŵr mewn dalgylchoedd gyda choed a’u heffaith ar fywydeg
pysgod. Bydd yr Athro Peter Wilson o’r Adran Sŵoleg, sy’n Is-Gadeirydd
SADAL, yn gallu defnyddio ei arbenigedd a chysylltiadau i helpu’r rhaglen hon.
Bydd CHERE sydd ag arbenigwyr mewn problemau asideiddio yn nentydd yr ucheldir
hefyd yn gallu helpu. Rheoli’r Prosiect m) Cyflogir Swyddog Prosiect yn
llawn amser am gyfnod cychwynnol o dair blynedd i gydgysylltu’r Prosiect yn
Iwerddon. Yn arbennig, bydd ei ddyletswyddau / dyletswyddau e neu hi’n cynnwys:
cysylltu â’n partneriaid yn Iwerddon a Chymru,
cymunedau a ffermwyr lleol; gweithredu’r cynlluniau gweithredu a
cherrig milltir a ddisgrifiwyd uchod; darparu gwasanaethau addysgol,
hyfforddiant a chysylltiadau cyhoeddus; rheoli’r wefan; datblygu mentrau
cymuned newydd; cadw cysylltiad agos a chyfathrebu’n rheolaidd â’r Swyddog
Prosiect yng Nghymru. Cysylltir Manyleb Swydd fanwl. n) Sefydlir Bwrdd Rheoli
Prosiect bach, sy’n cynnwys y prif bartneriaid Gwyddelig, i arwain elfen leol
y Prosiect ar y Cyd, gosod ei strategaeth, arolygu a chefnogi’r Swyddog
Prosiect, monitro cydymffurfio gyda safonau Interreg a gwario cyllid. Bydd yn
cwrdd o leiaf bum gwaith y flwyddyn. Os bydd angen, gofynnir i arbenigwyr TGCh,
Cyfle Cyfartal a Chynaladwyedd Amgylcheddol fynychu cyfarfodydd. Bydd y Bwrdd
Rheoli Prosiect yn cwrdd â’r Bwrdd cyfatebol o Gymru, unwaith y flwyddyn yn
Iwerddon ac unwaith y flwyddyn yng Nghymru i gyfnewid gwybodaeth a phrofiad.
o) Yn gyffredinol, mae’r
Cydgysylltwyr Prosiect a Swyddogion Prosiect yn cynllunio cynnal galwadau
cynhadledd rheolaidd i drafod cynnydd y Prosiect ar y Cyd drwy e-bost, ffôn a /
neu gynadledda fideo, fel y bo’n briodol. p) Unwaith y ffurfir Ymddiriedolaeth y Slaney ac y sefydlir rhwydwaith o gysylltiadau o fewn Dyffryn Slaney, bydd Bwrdd Rheoli’r Prosiect yn cynghori’r ymddiriedolwyr am yr opsiynau gorau ar gyfer cynnwys y gymuned ehangach yn ei gwaith gwarchod amgylcheddol.
|
||||||||||||
|
|||||||||||||