Ymddiriedolaeth
Afonydd Sir Benfro
Dipper - Bronwen y dwr
Pembrokeshire
Rivers Trust


Celtic Rivers Trust Partnership - Partneriaeth Ymddiriedolaeth Afonydd Celtiadd

Aims &
Objectives

The
Partners

Project Plan
- Wales -

Project Plan
- Ireland -


Nodau ac
Amcanion
Partneriaid
  
Cynllun Prosiect
- Cymru -
Cynllun Prosiect
- Iwerddon -

Ymddiriedolaeth
Afon Slaney
Logo: Slaney River Trust - Ymddiriedolaeth Afon Slaney
- Iwerddon -

Search

Gweithredu’r Prosiect yng Nghymru

Yma disgrifir yr hyn y byddwn yn ei wneud yng Ngorllewin Cymru i gwrdd â phob un o chwe amcan y Prosiect ar y Cyd

1. Datblygu Gallu Cymuned drwy Rwydwaith Ymddiriedolaeth Afonydd wrth:

a) Ddatblygu Ymddiriedolaeth Afonydd Sir Benfro fel elusen gynaliadwy a gyllidir gan gyfres o brosiectau sy’n gorgyffwrdd.

b) Addasu deunydd hyfforddi ac addysgol gan bartneriaid yn y DU ac Iwerddon, a sicrhau ei fod ar gael ar gyfer grwpiau cymuned, ysgolion a cholegau erbyn mis Rhagfyr 2005

c) Bod yn gyfrifol am weithdy datblygu Ymddiriedolaeth Afonydd yng Ngorllewin Cymru erbyn Rhagfyr 31 2005

2. Ehangu Ymrwymiad Cymuned a Mynediad i Amgylchedd yr Afon wrth:

ch) Gynllunio a chynhyrchu cynlluniau cyllido a gweithredu ar gyfer ‘Llwybr Cleddau’ i wella dealltwriaeth y gymuned leol ac ymwelwyr am y Cleddau o’i tharddiad i’r môr. Cwblheir cynlluniau cynllunio rhwydwaith llwybr a gweithredu a chyllido erbyn Gorffennaf 31 2005

d) Meithrin cysylltiadau gyda grwpiau cymuned, ysgolion a cholegau; darparu deunyddiau dysgu amgylcheddol; a chyhoeddi cyfleoedd ar gyfer ymweliadau maes sy’n hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad drwy brofiad cadarnhaol, ymarferol a gynlluniwyd i ddod â gwrthrychau’n fyw. Dosberthir adnoddau dysgu’n electroneg (CD-ROM/gwefan) i’r pum grŵp cyntaf fydd yn elwa erbyn Mawrth 31 2006 ac fe’u defnyddir gan o leiaf 20 o grwpiau fydd yn elwa erbyn Mawrth 2007.

dd) Hyfforddi unigolion a grwpiau sut i wella afonydd a chynefinoedd. Cwblheir y cwrs hyfforddi cyntaf yng Nghymru erbyn Rhagfyr 31 a chwblheir tri chwrs hyfforddi pellach erbyn Mawrth 31 2007. Mabwysiedir naw safle cynefinoedd afon a adferwyd yng Ngorllewin Cymru gan grwpiau cymuned erbyn Mawrth 31 2007.

3. Gwelliannau Amgylcheddol drwy Arfer Amaethyddol Gorau wrth:
e) Ddefnyddio hyfforddiant ac arweiniad arfer gorau, a gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir eraill i greu ‘safleoedd arddangos arfer gorau’. Cytunir chwe safle arddangos gyda pherchnogion tir, a chyflwynir dulliau arfer gorau erbyn Mawrth 31 2007. 

f) Arbenigwr amgylchedd amaethyddol yn ymweld â ffermydd i hyrwyddo gwarchod arfer gorau tir glannau afon a menter Afonydd Byw Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cwblheir trigain o ymweliadau fferm a chyflwynir argymhellion ysgrifenedig i berchnogion tir erbyn Mawrth 31 2007; a bydd 15 o berchnogion tir yn gweithredu argymhellion arfer gorau i warchod tir glannau afon erbyn Mawrth 31 2007.

4. Cadwraeth a Gwella Stociau Pysgod wrth:
ff) Hyrwyddo dal a rhyddhau eogiaid, brithyll a brithyll môr. Bydd deunydd hyrwyddol ar gael ar wefan a dosberthir llyfrynnau sy’n bodoli’n barod i 90 y cant o bysgodfeydd Dyffrynnoedd Cleddau a Theifi erbyn Mawrth 31 2005, er mwyn sicrhau cynnydd o 10 y cant o leiaf mewn dal a rhyddhau eogiaid ar y Cleddau a’r Teifi erbyn Rhagfyr 31 2007.

5. Datblygu a Marchnata Cyfleoedd Twristiaeth Pysgota wrth:
g) Ddatblygu system marchnata gwyliau seiliedig ar y We gyda physgota ar afonydd Sir Benfro a’r Teifi yng Nghymru. Bydd y safle’n ehangu ac yn ategu gwefannau eraill sy’n cefnogi twristiaeth werdd fel safle hyrwyddo pysgota Bwrdd Croeso Cymru www.fishing.visitwales.com a www.fishing-in-wales.com. Bydd hunan ymatebwyr  ac offer diweddaru ar gael erbyn Mawrth 31 2005 gydag adnoddau gwybodaeth statig seiliedig ar y We, gan gynnwys mapiau, diogelwch, mynediad a lluniau a chyngor pysgota, wedi eu cwblhau a’u gwirio erbyn Mawrth 31 2005. Darperir cyngor/hyfforddiant ar-lein ar gyfer o leiaf 30 o ddarparwyr pysgota a phecynnau gwyliau eraill yng Ngorllewin Cymru.

ng) Cyhoeddi e-lyfryn lliw 16 tudalen gyda lluniau ac arweinlyfr wedi ei argraffu ar gyfer pysgota a gwyliau eraill seiliedig yn yr awyr agored yn Sir Benfro erbyn Mehefin 30 2006 

h) Darparu cyrsiau hyfforddi ar gyfer perchnogion pysgodfeydd/clybiau ac unigolion yn seiliedig ar yr hyn a wnaethpwyd yn Iwerddon wrth gynnal cyrsiau ‘gillie’/cychwyr gyda’r nod o wella profiad pysgotwyr sy’n ymweld ac felly’n sicrhau cyfradd ail ymweliad mwy. Cwblheir y cwrs hyfforddi cyntaf yng Ngorllewin Cymru erbyn Mehefin 31 2005 a dau gwrs hyfforddi pellach erbyn Mawrth 31 2007. Cynhelir pedwar digwyddiad Diwrnod Croeso ar gyfer pysgotwyr lleol ac ymwelwyr a’u teuluoedd yn Nyffrynnoedd Teifi a Chleddau erbyn Mawrth 31 2007 

i) Trefnu 'Diwrnodau Cadwraeth a Dysgu Sut i Bysgota’ yn Nyffryn Teifi ac yn Sir Benfro ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Cynhelir Chwe Diwrnod Cadwraeth a Dysgu Sut i Bysgota yng Ngorllewin Cymru erbyn Mawrth 31 2007

6. Adeiladu Gallu ac Ymrwymiad Cymunedau i Warchod eu Hafonydd wrth:
l) Gyda help gan CHERE, a chefnogaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, bydd Swyddog y Prosiect a deg o wirfoddolwyr cymuned yn derbyn hyfforddiant mewn monitro amgylcheddol fel eu bod erbyn Rhagfyr 31 2006 yn gallu gwneud gwaith monitro hanfodol a gweithredu’n briodol mewn argyfwng os oes angen.

Rheoli’r prosiect gyda:
ll) Chydgysylltydd Prosiect rhan amser o PCA, a gynorthwyir gan Fwrdd Rheoli Prosiect bach (gweler n isod), sy’n arwain y prosiect ac yn rhoi arweiniad strategol.

m) Swyddog Prosiect llawn amser sy’n treulio dau ddiwrnod y mis yn gweinyddu’r prosiect; bydd gweddill amser Swyddog y Prosiect yn ymwneud â chyrraedd targedau carreg filltir.

n) Bwrdd Rheoli Prosiect, sy’n cynnwys Cydgysylltydd y Prosiect, prif bartneriaid Cymru a’r Swyddog Prosiect yng Nghymru, sy’n cwrdd ddwywaith y mis i osod blaenoriaethau, dosrannu adnoddau a rheoli a monitro’r gwaith.

o) Grŵp Ymgynghorol sy’n cynnwys partneriaid y prosiect yng Ngorllewin Cymru ac yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn er mwyn derbyn y diweddaraf am gynnydd, helpu i gynllunio a chynnal digwyddiadau addysgol a bwydo syniadau er mwyn sicrhau bod y gymuned yn cymryd rhan gynyddol.

Aims &
Objectives

The
Partners

Project Plan
- Wales -

Project Plan
- Ireland -


Nodau ac
Amcanion
Partneriaid
  
Cynllun Prosiect
- Cymru -
Cynllun Prosiect
- Iwerddon -